Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

 

31 Mawrth 2014

 

 

CLA387 - Gorchymyn Twbercwlosis (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

Gweithdrefn:  Negyddol 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy. 122)) a Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011 (O.S. 2011/692 (Cy. 104)). Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i gymeradwyo milfeddygon i gynnal profion diagnostig penodol ar gyfer twbercwlosis (profion perthnasol) ar anifeiliaid buchol, ac anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol, ac i archwilio a marcio'r anifeiliaid hynny. Mae'n darparu ar gyfer gofynion awtomatig i fod yn gymwys i geidwad pan fo prawf perthnasol yn datgelu adweithydd neu adweithydd amhendant.

 

CLA390 – Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau yn ymwneud ag asesiad ariannol o unigolion ar gyfer codi tâl am ofal preswyl a gofal nad yw'n ofal preswyl a bydd yn:

 

Gofal preswyl

 

 

 

Gofal nad yw'n ofal preswyl

·         cynyddu'r swm uchaf y caiff awdurdod lleol ei benderfynu fel tâl rhesymol am ddarparu gwasanaethau neu gyfuniad o wasanaethau, a'r swm uchaf y caiff awdurdod lleol ei benderfynu fel swm rhesymol am gyfraniad neu ad-daliad am dderbyn taliad uniongyrchol, o £50 yr wythnos i £55 yr wythnos.

 

CLA391 -Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2014

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu, disodli a diwygio’r Rheoliadau cyfatebol o 2008. Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd yn awr wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru (h.y. ardal a ddynodir gan awdurdod lleol yn ardal rheoli mwg).

 

 

CLA392 - Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae Deddf Aer Glân 1993 yn gwahardd gollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Fodd bynnag, mae Deddf 1993 yn darparu ar gyfer esemptio dosbarthiadau penodedig o leoedd tân. Mae’r Gorchymyn hwn yn nodi’r lleoedd tân esempt hynny (ac yn dirymu, disodli a diwygio’r Gorchymyn 2013 cyfatebol).